Chwilio amdanat, addfwyn Arglwydd, Mae fy enaid, yma a thraw; Teimlo 'mod i'n berffaith ddedwydd Pryd y byddi di gerllaw: Gwedd dy ŵyneb Yw fy mywyd yn y byd. Heddwch perffaith yw dy gwmni, Mae llawenydd ar dy dde; Ond i ti fod yn bresennol, Popeth sydd yn llanw'r lle: Ni ddaw tristwch Fyth i'th gwmni tra bo nef. Yn y ffwrnais danllyd, greulon, Os tydi a ddaw ymlaen, 'Does ond heddwch a mwyneidd-dra A thiriondeb yn y tân Gwên dy gariad Wna bob cystudd yn ddi-rym. Ti wyf yn ei 'mofyn, Arglwydd, Ymhob trallod bydd gerllaw; Dilyn fi, 'rwy'n ofni yma, Dilyn fi, 'rwy'n ofni draw: Dan dy adain Mi edrycha'n ŵyneb llu. - - - - - Chwilio am danat, addfwyn Arglwydd, Mae fy enaid, yma a thraw; Teimlo 'mod i'n berffaith ddedwydd Pryd y byddi di gerllaw: Gwedd dy ŵyneb Yw fy mywyd yn y byd. Dwed a ellir nesu atat, Dwed a ellir dy fwynhau, Heb un gorchudd ar dy wyneb, Nac un gwg i'm llwfwrhau: Dyma'r nefoedd A ddeisyfwn tu yma i'r bedd. - - - - - Chwilio am danat addfwyn Arglwydd, Mae fy enaid yma a thraw, Teimlo 'mod i'n berffaith ddedwydd, Pan y byddoch di ger llaw; Gwedd dy wyneb, Yw fy mywyd yn y byd. Mae fy nwydau wedi mlino, Canwaith yn yr ardal hyn, Lle b'wyf fi, maent hwythau yno, B'wyf ar foroedd, b'wyf ar fryn; O am deimlo, Rhyddid paradwysaidd dir. Ti faddeuant fyrdd o feiau, I'r pechadur gwaetha ei ryw, Arglwydd maddeu etto i minau, Ar faddeuant 'rwyf yn byw: Dy unig haeddiant, Yw ngorfoledd a fy ngrym. Da yw'r groes, a da yw gwasgfa, Da yw profedigaeth llym, Oll i'm tynu o'r creadur, O fy haeddiant, o fy ngrym; Minau'r truan, Ffo'f dan aden Brenin Nef. Dyben nefoedd sydd yn gywir, Bynag beth yw dyben dyn; Ac mi anturiaf fy holl fywyd, Ar ei eiriau ef ei hun; Doed pob cystudd, Ddygwydd dim ond da i mi.William Williams 1717-91
Tonau [878747]: Gwelir: Duw anfeidrol yw dy enw (Llanw'r nefoedd llanw'r byd) Duw anfeidrol yw dy enw (Llanw'r nefoedd llanw'r llawr) Dyma Geidwad i'r colledig |
Searching for thee, gentle Lord, Is my soul, here and there; To feel that I am perfectly happy When thou art at hand: The image of thy countenance Is my life in the world. Perfect peace is thy company, There is joy at thy right hand; But that thou art present, Everything is filling the place: No sadness comes Ever to thy company while heaven is. In the cruel, fiery furnace, If thou come before, There is nothing but peace and tenderness And gentleness in the fire The smile of thy love Makes every affliction powerless. Thee am I asking for, Lord, Amidst tribulation to be at hand; Follow me, I am afraid here, Follow me, I am afraid yonder: Under thy wing I will see a host face-to-face. - - - - - Searching for thee, gentle Lord, Is my soul, here and there; To feel that I am perfectly happy When thou art at hand: The image of thy countenance Is my life in the world. Say canst thou be drawn near to, Say canst thou be enjoyed, Without one cover on Thy face, Nor one frown for me to be discouraged? Here is the heaven I want to have this side of the grave. - - - - - Searching for thee, dear Lord, Is my soul here and there, Feeling that I am perfectly happy, Whenever thou art at hand; The countenance of thy face, Is my life in the world. My lusts have exhausted me, A hundred time in this region, Wherever I am, they will be there, Be I on seas, be I on a hill; Oh, to feel, The freedom of a paradisiacal land. Thou hast forgiven of myriad of faults, The sinner of the worst sort, Lord forgive me too again, On forgiveness I am living: Thy merit alone, Is my jubilation and my strength. Good is the cross, and good are straits, Good is sharp temptation, All to draw me from the creature, From my merit, from my strength; I the wretch, Shall flee under the King of heaven's wing. The purpose of heaven is true, Whatever is the purpose of man; And I will venture my whole life, On his own words; Let every affliction come, Nothing will happy but good to me.tr. 2008,15 Richard B Gillion |
|